Mi fydd y canwr o Fethesda, Martin Beattie, yn canu efo’r band Celt am y tro cyntaf ers pum mlynedd ym Mharti Dolig Pesda Roc eleni.

Bydd y Parti yn cael ei gynnal yn Neuadd Ogwen, Bethesda, nos Sadwrn nesaf, 17 Rhagfyr am 8.00yr hwyr.

Dilwyn Llwyd, Swyddog Datblygu Pesda Roc, sydd wedi trefnu’r noson ac mae o wrth ei fodd yn gweld Martin a Celt yn canu gyda’i gilydd unwaith eto.

“Mi wnaeth yr holl beth ddeillio o Pesda Roc eleni pan wnaeth Martin gamu i’r llwyfan i ganu am ychydig efo Celt, ac roedd yn un o uchafbwyntiau’r ŵyl” meddai Dilwyn.

“A rŵan yn y Parti Dolig mi fyddan nhw’n canu efo’i gilydd yn swyddogol. Mi fedra i ddweud felly fod Pesda Roc wedi dod â nhw yn ol at ei gilydd!”

Ar y noson mi fydd Martin hefyd yn canu efo’i fand ei hun, ac mi fydd band ifanc o Fethesda, Vintage Magpies hefyd yn perfformio. Nhw wnaeth ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau canolfan Galeri yng Nghaernarfon.

Mi fydd y canwr Eilir Pierce hefyd yn cymryd rhan yn y Parti. Mae wedi paratoi Sioe Dolig go arbennig ar gyfer yr achlysur.

Os ydych yn awyddus i fod yn rhan o’r Parti, mae Dilwyn yn eich argymell i brynu tocyn o flaen llaw. “Mae’n rhatach ac mi fyddwch chi’n siŵr o gael mynediad felly.”

Mae tocynnau ar gael o siop bapur newydd Kathy ym Methesda.