Mae’r band Yucatan mor boblogaidd yn Japan mae eu halbwm diweddaraf wedi gwerthu allan yno, ac maen nhw’n gobeithio cynnal gigs yn y wlad yn y dyfodol.

Dywedodd Dilwyn Llwyd, sy’n aelod o’r band ers y dechrau yn 2006, fod ymweliad â Japan bellach yn fwy o realiti na breuddwyd gan fod Yucatan mor boblogaidd yn y wlad. “Mi rydan ni’n gwerthu mwy o albwms yna nag yng Nghymru,” meddai.

“Maen nhw’n awyddus iawn inni ryddhau ein halbwm nesaf yn Japan ac inni fynd draw yno i’w hyrwyddo.”

Yn ogystal â’r Bala, mae aelodau Yucatan yn dod o Gaernarfon ac Ynys Môn.

Mae’r band hefyd wedi cyfrannu cân at albwm aml gyfrannog fydd yn cael ei ryddhau ym Mecsico a De America ym mis Ionawr. Teitl yr albwm ydi Songs of Calvary, Indian Summer 2011-2012.

Malu, Trwsio, Chwalu, Uno ydi’r gân gan Yucatan sydd hefyd wedi ei chynnwys ar albwm cyntaf y band a ryddhawyd yn 2007.

Mae’r band yn brysur ar hyn o bryd yn sgwennu caneuon newydd, ac maen nhw’n gobeithio mynd i’r stiwdio ddechrau’r flwyddyn i recordio albwm newydd.