Orig Williams
Mae’r actores, cyflwynwraig a chantores Tara Bethan wedi cyd-gynhyrchu rhaglen ddogfen am ei thad, y reslar annwyl o Ysbyty Ifan, Orig Williams, a fu farw dwy flynedd yn ôl yn 78 oed.
Bydd y rhaglen, Orig, i’w gweld ar S4C Ddydd San Steffan.
Mae Tara’n cyfaddef fod gwneud y rhaglen wedi bod yn brofiad emosiynol iddi, ond hefyd yn brofiad pleserus.
“Dwi wedi sylweddoli’r dylanwad mae Dad wedi ei gael, a’r hyn mae o wedi ei adael ar ei ôl,” meddai. “Doeddwn i ddim am ei gweld yn datblygu i fod yn rhaglen drist. Mi roedd Dad yn gymeriad llawn bywyd, yn berson direidus ac annwyl.”
Yn y rhaglen mae Tara’n sgwrsio â nifer o bobl oedd wedi bod yn rhan o fywyd ei thad a hynny mewn gwahanol feysydd, rhai efallai braidd yn annisgwyl.
Cawn ddarganfod mwy am deithiau reslo Orig i Bakistan, ac am ei anturiaethau fel peldroediwr a rheolwr ar yr enwog Nantlle Vale. Bydd Tara hefyd yn teithio i Atlanta a Los Angeles yn yr Unol Daleithiau i sgwrsio efo dau enw mawr yn y byd reslo, Dave Finlay a Barry Griffiths. Daw Barry o Borthmadog ac mae’n cael ei gyfrif fel un o brif reslars y WWE, y cwmni reslo mwyaf yn y byd sy’n darlledu’r gamp mewn 30 iaith i dros 145 o wledydd.
“Dwi’n ffodus iawn bod y bobol sydd wedi cytuno i sgwrsio efo fi am Dad wedi siarad mor dda ac mor agored amdano fo,” meddai Tara, sydd i’w gweld ar hyn o bryd fel landledi newydd y Deri Arms yn y gyfres Pobol y Cwm.