Mae Cystadleuaeth Barddoniaeth Ryngwladol Caerdydd 2012 wedi cael ei lansio.
Mae gwobr o £5,000 ar gael i enillydd y gystadleuaeth, sy’n cael ei threfnu gan Llenyddiaeth Cymru gyda chymorth ariannol Cyngor Caerdydd.
“Mae’r gystadleuaeth ar agor i bawb; boed chi’n fardd proffesiynol neu’n ymddiddori mewn ysgrifennu barddoniaeth bob yn hyn a hyn. Bydd pob ymgais yn cael ei feirniadu’n ddienw, felly dyma gyfle gwych i chi gael adborth ar eich gwaith,” medd llefarydd ar ran Llenyddiaeth Cymru.
Y beirniaid yw’r beirdd Sinéad Morrissey, Patrick McGuinness a Samantha Wynne-Rhydderch.
Mae’r gystadleuaeth yn gofyn am gerdd Saesneg sydd ddim yn hirach na 50 llinell, sydd ddim wedi ei chyhoeddi o’r blaen ac sydd ddim yn gyfieithiad o gerdd gan awdur arall.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn cerddi yw Dydd Gwener, 2 Mawrth, 2012.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru, 02920 47 2266/post@llenyddiaethcymru.org