Tydi pethau ddim yn edrych yn rhy dda i’r gyflwynwraig Alex Jones o ran cyrraedd rownd derfynol y gyfres deledu boblogaidd Strictly Come Dancing.

Roedd Alex a’i phartner James Jordan ar waelod y tabl neithiwr ar ôl iddyn nhw ddawnsio’r Walts a’r Salsa.

Cafodd Alex ei chanmol gan y beirniaid am ei hymroddiad a’i hegni ond gan fod y cystadleuwyr eraill wedi perfformio mor dda, Alex a James oedd yr olaf yn y gystadleuaeth ar ddiwedd y noson gyda 65 marc.

Yr actores Chelsee Healey oedd ar frig y tabl.

Bydd Alex yn awr yn dibynnu ar bleidleisiau’r gwylwyr i’w chadw yn y ras.

Bydd dau gystadleuydd yn gadael heno, a bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Blackpool yr wythnos nesaf.