Tom Jones fydd un o hyfforddwyr y gyfres deledu newydd The Voice UK fydd yn cael ei darlledu ar y BBC yn y gwanwyn y flwyddyn nesaf.

“Dwi’n teimlo’n gyffrous am The Voice, ac yn falch iawn fy mod i am fod yn hyfforddwr,” meddai’r canwr o Bontypridd sydd wedi gwerthu dros 100 miliwn o recordiau yn ystod ei yrfa.

“Mae’n sioe gref, y talent sy’n bwysig – ond mae hefyd yn gyffrous, yn gystadleuol ac yn deledu mae’n rhaid i chi ei wylio.”