William Hague
Mae’r DU wedi rhoi gorchymyn i gau llysgenhadaeth Iran yn Llundain mewn ymateb i’r ymosodiadau ar lysgenhadaeth Prydain yn Tehran, meddai William Hague yn Nhŷ’r Cyffredin.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor bod  llysgenhadaeth Prydain yn Tehran wedi cau a bod y staff bellach wedi dychwelyd i’r DU yn dilyn ymosodiad ar yr adeilad ddoe gan 200 o brotestwyr.

Bu protestwyr yn chwalu ffenestri, rhoi ceir ar dân, ac yn llosgi fflag Jac yr Undeb mewn protest yn erbyn Prydain.

Mae William Hague hefyd wedi dweud beirniadu llywodraeth Iran am fethu â diogelu staff Llysgenhadaeth Prydain rhag y gwrthdystwyr.

Wrth gyhoeddi bod cysylltiadau diplomyddol rhwng y ddwy wlad wedi eu hisraddio i’w lefel isaf, ond heb dorri’r cysylltiad yn llwyr, dywedodd William Hague bod charge d’affaires Iran wedi cael gwybod bod yn rhaid i’w staff adael o fewn y 48 awr nesaf.

Mae’r tensiwn rhwng y DU ac Iran wedi cynyddu’n ddiweddar oherwydd y pryder am raglen niwclear Tehran.

Norwy yn cau eu llysgenhadaeth

Yn y cyfamser mae Norwy hefyd wedi cau eu Llysgenhadaeth yn Tehran oherwydd pryderon dros ddiogelwch eu staff ar ôl yr ymosodiad ar Lysgenhadaeth Prydain, meddai swyddog o lywodraeth Norwy.

Yn ôl llefarydd eu Gweinidogaeth Dramor, Hilde Steinfeld, cafodd y penderfyniad i gau’r Llysgenhadaeth ei gymryd yn hwyr ddoe, yn sgil “pryderon diogelwch”.