Bethan Jenkins AC
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi galw ar y streicwyr i gofio pa bleidiau sydd wedi sefyll tu ôl iddyn nhw’n gyson yn ystod y gweithredu diwydiannol heddiw.

Dywedodd Bethan Jenkins AC wrth Golwg 360 ei bod yn siomedig na chafodd annerch rali’r streicwyr yn Abertawe heddiw, er bod aelodau o’r Blaid Lafur wedi cael siarad o’r llwyfan.

Yn ôl Bethan Jenkins, fe ddywedodd trefnwyr y rali wrthi nad oedden nhw’n fodlon iddi hi siarad, gan nad oedd hi i lawr ar yr agenda, er bod Aelod Cynulliad o’r Blaid Lafur wedi cael annerch y gynulleidfa.

Mae Bethan Jenkins yn credu fod y digwyddiad yn dangos “diffyg cydraddoldeb” gan rai o drefnwyr rali’r streicwyr heddiw, gyda Phlaid Cymru yn cael eu gwasgu i’r ymylon.

“Mae Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol i’r streicwyr a’u penderfyniad i streicio o’r dechrau,” meddai Bethan Jenkins. “Ni yw’r unig blaid sydd wedi bod yn hollol gefnogol i’r streic.”

‘Angen gwarchod pobol gyffredin’

Dywedodd Bethan Jenkins wrth Golwg 360 ei bod eisiau i’r streicwyr wybod bod Plaid Cymru tu ôl iddyn nhw.

“Mae’r Llywodraeth yn cwtogi ar bensiynau, ac mae’n effeithio’n arw ar nifer o bobol,” meddai.

“A dim pobol gyfoethog â thai crand yw rhain, ond athrawon a nyrsus, a gweithwyr tebyg yn y sector cyhoeddus.

“Ma’ nhw’n haeddu cael sicrwydd yn eu pensiynau,” meddai.

Ond mae Bethan Jenkins yn dweud ei bod hi’n anhapus iawn â’r ffaith fod Llafur wedi cael “hysbyseb clir” ar lwyfan y streiciau, tra bod eu harweinydd yn San Steffan, Ed Miliband, wedi bod yn llugoer ei gefnogaeth i’r streicwyr.

“Ma’ hyn yn hollol annerbyniol,” meddai Bethan Jenbkins, “ma’ Llafur yn trio gwthio Plaid mas.”

Roedd tua 600 o bobol wedi ymgynnull i glywed yr areithwyr, oedd yn cynnwys nifer o aelodau o’r sector cyhoeddus, yn annerch cynulleidfa’r streic yn Abertawe heddiw.

‘Amddiffyn pensiynau’

Yn gynharach, roedd arweinydd Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones wedi ymuno â gweithwyr y sector cyhoeddus wrth iddynt orymdeithio trwy Gaerdydd.

Dywedodd: “Gallai effeithiau’r holl newidiadau hyn a fwriedir gan lywodraeth DG weld rhai gweithwyr yn colli hyd at chwarter o’u pensiwn dros 30 mlynedd. Does dim teg yn y newidiadau hyn, ac y mae’n bwysig ein bod yn cefnogi’r gweithwyr hyn heddiw wrth iddynt geisio pwysleisio hynny wrth Lywodraeth y Toriaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan.
“Mae llywodraeth y DG yn cynnig y newidiadau hyn er mwyn arbed arian iddynt eu hunain, trwy gymryd miliynau o bunnoedd o’r cronfeydd pensiwn y cyfrannodd unigolion atynt trwy gydol eu bywydau gwaith. Mae hyn yn hollol annheg ac annerbyniol.

“Mae Plaid Cymru wedi pleidleisio yn gyson yn erbyn y newidiadau hyn yn San Steffan, a byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu i amddiffyn pensiynau gweithwyr Cymru.”