Mae Syria wedi cyhoeddi heddiw eu bod nhw’n fodlon caniatau i arolygwyr ddod i mewn i’r wlad “mewn egwyddor”, yn ôl un o swyddogion y llywodraeth yn Damascus heddiw.
Daw’r newyddion wrth i brotestiadau newydd ddechrau yn Ffrainc heddiw, yn galw ar y Cenhedloedd Unedig i weithredu yn erbyn yr Arlywydd Bashar Assad.
Cafodd Syria ei gwahardd rhag y Gynghrair Arabaidd yn gynharach yn yr wythnos oherwydd y modd didrugaredd y mae’r llywodraeth wedi delio â’r gwrthryfelwyr yn y wlad.
Mae’r Cenhedloedd Unedig yn amcangyfrif fod dros 3,500 o bobol eisoes wedi eu lladd gan y gwrthdaro â’r llywodraeth ers i’r cyfan ddechrau ym mis Mawrth.
Mae’r Gynghrair Arabaidd wedi dweud ers tro eu bod nhw eisiau anfon arolygwyr i mewn i’r wlad er mwyn ceisio atal y marwolaethau treisgar.
Heddiw, dywedodd un o uwch swyddogion llywodraeth Syria eu bod nhw “wedi cytuno mewn egwyddor i gynnig y Gynghrair Arabaidd, ac ry’n ni’n dal i astudio’r manylion.”
Mae’r Arlywydd Assad yn wynebu pwysau enfawr i’w rym adref, a thramor, wrth i nifer y gwrthryfelwyr gynyddu, a’r ymosodiadau ddwysau, a gwledydd tramor yn galw arno i atal y tywallt gwaed.
Mae’r trais cynyddol bellach wedi arwain llawer i gredu fod rhyfel cartref ar droed.