Mae barnwr wedi galw am fwy o rym i garcharu pobol sy’n lawrlwytho pornograffi plant heddiw, ar ôl i arweinydd grŵp o sgowtiaid gerdded yn rhydd o’r llys.
Gwnaed y sylwadau gan y Barnwr Christopher Elwen tra’n dedfrydu Damian Gough, 49, sy’n daid ac wedi treulio 14 mlynedd yn rhedeg grŵp o sgowtiaid, wedi iddi ddod i’r amlwg fod ganddo gannoedd o luniau a fideos pornograffig o blant ar ei gyfrifiadur ac ar DVDs.
Llwyddodd Damian Gough i osgoi carchar ar ôl i’r barnwr ddweud fod ei anfon i’r carchar am chwe wythnos – sef y cyfnod hiraf ar gyfer ei drosedd – yn “wastraff amser”.
Yn lle carchar, fe orfododd y barnwr iddo wneud tair blynedd o wasanaeth cymdeithasol, a’i wahardd rhag gweithio na byw gyda phlant.
Dywedodd y Barnwr Elwen fod y canllawiau dedfrydu yn “anghywir” i beidio â chaniatau dedfrydau uwch i ddynion fel Gough, sy’n lawrlwytho pornograffi plant, o’i gymharu â’r dedfrydau sy’n cael eu rhoi i’r rhai sy’n cam-drin plant.
“O ystyried dy weithgareddau gwirfoddol, fyddwn i’n synnu dim petai’r News of the World dal yn bodoli fe fydden nhw ar ben eu digon,” meddai’r barnwr.
Cafodd Damian Gough, sy’n wreiddiol o Gernyw, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Truro am 15 achos o greu lluniau anweddus o blant. Mae nawr yn byw yn llety sy’n cael ei ddarparu gan y Fyddin Iachawdwriaeth yn Birmingham.
Cafodd ei arestio ym mis Hydref y llynedd, wedi i’r heddlu ei ddal wrth ddarganfod ei gyfeiriad IP tra’n arolygu gwefannau pornograffi plant, ac yna mynd i’w gartref.