Dr Barry Morgan
Mae Archesgob Cymru wedi dweud y byddai’n gadael i brotestwyr gwrth-gyfalafol geisio lloches dros nos yng Nghadeirlan Llandaf.

Roedd y Dr Barry Morgan yn siarad ar ôl i brotestwyr tu allan i Gadeirlan St Paul gael rhybudd i adael.

Yn ôl Dr Morgan mi fyddai croeso i brotestwyr yng Nghandeirlan Llandaf, cyn belled eu bod yn byhafio.

“Petae hyn yn digwydd tu allan i Gadeirlan Llandaf, mi fydden ni’n parhau i gynnal gwasanaethau, a chadw’r Gadeirlan ar agor er y byddai’n bosib y byddech chi’n baglu dros bobol er mwyn dod fewn…os yw pobol eisiau protestio’n heddychlon mewn dull na fyddai’n amharu ar fywyd y Gadeirlan o ran addoli, byddem yn bod mor groesawgar ag sy’n bosib,” meddai Dr Morgan wrth y BBC.