Dr Simon Brooks
Mae cylchgrawn llenyddol Cymraeg i bobol ifanc wedi colli grant blynyddol o £6,000.
Dywedodd un o sylfaenwyr y cylchgrawn Tu Chwith, wrth Golwg360 bod dileu’r cymhorthdal yn benderfyniad “cywilyddus”.
Ond yn ôl y Cyngor Llyfrau, sy’n dosbarthu grantiau i gylchgronau Cymraeg, roedd gwerthiant isel Tu Chwith dros y blynyddoedd diwethaf wedi eu perswadio i dynnu’r plwg ar y gefnogaeth ariannol.
“Yn dilyn cryn drafodaeth, penderfynwyd atal y grant i’r cylchgrawn Tu Chwith,” meddai’r Cyngor Llyfrau mewn datganiad heddiw.
“Er bod y cylchgrawn wedi gwneud gwaith pwysig yn meithrin ysgrifenwyr ifainc roedd y gostyngiad sylweddol yn y gwerthiant yn ystod y blynyddoedd diweddar yn arwydd clir nad oedd y cylchgrawn bellach yn bodloni’r gynulleidfa darged ac felly’n syrthio’n fyr o’i nod.”
Ond yn ôl Dr Simon Brooks, un o sylfaenwyr Tu Chwith nôl yn 1993, mae’r cylchgrawn yn gwneud gwaith “pwysig” wrth hyrwyddo llenyddiaeth, a rhoi llwyfan i lenyddiaeth, ymhlith yr ifanc – ac nad yw Cyngor Llyfrau Cymru yn gwerthfawrogi hyn.
“Dyw hi ddim yn gwneud synnwyr i fi eu bod nhw’n gwrthod cefnogi cylchgrawn sy’n gwneud cyfraniad mor fawr, am gyn lleied o gost.”
Yn ôl datganiad y Cyngor Llyfrau a gyhoeddwyd heddiw, fe fydd cylchgrawn barddoniaeth Barddas yn dal i dderbyn grant blynyddol o £24,000, a chylchgrawn llenyddol Taliesin yn derbyn grant o £28,500 y flwyddyn.
Roedd Simon Brooks hefyd yn siomedig nad oedd gwaith caled y tîm cynhyrchu yn cael ei ystyried yn y penderfyniad ychwaith, meddai.
“Mae’r cylchgrawn wedi cael ei redeg yn wirfoddol gan bobol ifanc ar hyd y blynddoedd.
“Mae’n enghraifft prin iawn o bobol ifanc yn creu eu diwylliant eu hunain.
“Mae’n annheg iawn mai pobol sy’n eistedd rownd bwrdd yn Aberystwyth sy’n cael gwneud y penderfyniadau hyn am beth sy’n briodol.”
Yn ôl Simon Brooks, dydi llais y to ifanc, sef y rhai sy’n elwa o Tu Chwith, ddim yn cael ei glywed gan y bobol sy’n penderfynu ar dynged y cylchgrawn.
“Mae popeth sy’n cael ei wneud fan hyn yng Nghymru, heblaw Tu Chwith, yn cael eu rhedeg gan bobol sydd dros eu 30au,” ychwanegodd.
Nawdd i’r wasg Gymraeg
Daeth y newyddion gan y Cyngor Llyfrau’r bore yma, wrth iddyn nhw gyhoeddi pwy oedd wedi bod yn llwyddiannus gyda’u ceisiadau ar gyfer grantiau gwerth cyfanswm o £360,000 ar gyfer 2011-2015.
Bydd 16 o gwmnïau nawr yn rhannu’r grant yma rhyngddyn nhw, wedi i’r Cyngor llyfrau wrthod pedwar cais, oedd yn cynnwys un gan Tu Chwith ac un arall gan y cylchgrawn barddonol newydd, Y Glec.
Dyma’r cyhoeddiadau llwyddiannus:
Rhifynnau mewn blwyddyn | Grant Blynyddol | ||
Y Cymro | 52 | £ 18,000 | |
Barn | 10 | £ 80,000 | |
Golwg | 50 | £ 73,000 | |
Llenyddiaeth a Chrefydd | |||
Barddas | 4 | £ 24,000 | |
Cristion | 6 | £ 4,800 | |
Gair y Dydd | 4 | £ 2,400 | |
Taliesin | 3 | £ 28,500 | |
Y Traethodydd | 4 | £ 8,000 | |
Hamdden: Plant | |||
Wcw | 12 | £ 36,000 | |
Cip | 10 | £ 26,000 | |
Hamdden: Oedolion | |||
Y Casglwr | 3 | £ 1,500 | |
Fferm a Thyddyn | 2 | £ 2,000 | |
Lingo Newydd | 6 | £ 18,000 | |
Llafar Gwlad | 4 | £ 7,000 | |
Y Selar | 4 | £ 12,000 | |
Y Wawr | 4 | £ 10,000 | |
Cronfa grantiau datblygu | £ 8,800 | ||
£360,000 |