Mae dyn wedi cael ei ladd ac mae 11 yn rhagor wedi’u hanafu yn dilyn achos o saethu ym Minneapolis.

Fe ddigwyddodd ryw dair milltir o’r ardal lle cafodd protestiadau eu cynnal yn dilyn marwolaeth George Floyd dan law’r heddlu fis diwethaf.

Dyw’r heddlu ddim wedi arestio unrhyw un, a’r gred yw fod “unigolion ar droed” yn gyfrifol am yr ymosodiad yn oriau man y bore.

Mae pobol yn cael eu cynghori i gadw draw o’r ardal fasnachol, sy’n gartref i theatr, bariau a bwytai, sydd ar agor ers Mehefin 1 yn dilyn y coronafeirws.

Mae galwadau ar i heddlu Minneapolis gael ei gweddnewid ers marwolaeth George Floyd, gyda chynghorwyr yn cefnogi diddymu’r heddlu’n gyfangwbl yn sgil honiadau o drais a hiliaeth.

Ond mae’n codi cwestiynau i rai ynghylch sut mae cadw trefn yno.