Mae tri o bobol wedi marw a thri arall wedi’u hanafu’n ddifrifol yn dilyn achosion o drywanu mewn parc yn Reading neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 20).

Yn ôl tystion, roedd dyn yn rhedeg o gwmpas am oddeutu 7 o’r gloch yn gweiddi “geiriau annealladwy” ac mae adroddiadau ei fod yn dod o Libya.

 

Mae’r dyn 25 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddio, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa, ond dyw’r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel un brawychol.

 

Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.