Mae trefnwyr Tafwyl ddigidol yn dweud bod y digwyddiad ar-lein wedi bod yn “llwyddiant ysgubol”, gan ddenu 8,000 o wylwyr yn ystod y dydd ddoe (dydd Sadwrn, Mehefin 20).

Wrth ddarlledu ar blatfform AM, fe ddenodd yr ŵyl flynyddol yng Nghaerdydd gynulleidfa o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Japan, yr Iseldiroedd, Sbaen, Ffrainc a thu hwnt.

Cafodd sesiynau byw – yn amrywio o gerddoriaeth i lenyddiaeth, o drafodaethau i weithgareddau i blant – eu ffrydio dros y we, gyda llwyfan gerddoriaeth yn darlledu’n fyw o gastell Caerdydd.

Mae’r trefnwyr yn dweud iddyn nhw ddenu deg o artistiaid i berfformio 50 o ganeuon, 60 o gyfranwyr ar gyfer 19 o sgyrsiau panel a sesiynau holi ac ateb, 16 o weithdai i blant a mwy na 50 o stondinau ar gyfer marchnad ddigidol ar Facebook.

Cafodd Menter Caerdydd, y trefnwyr, gefnogaeth ar gyfer y digwyddiad gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg ac Arts & Business Cymru.

Roedd hefyd yn bartneriaeth gyda Gŵyl Fach y Fro ym Mro Morgannwg, ac roedd Orchard Media yn bartner cyfryngau swyddogol yr ŵyl.

Ymateb

“Mae wedi bod yn anhygoel gweld Tafwyl yng nghastell Caerdyd eto eleni, gydag adborth cychwynnol y ffrydio byw wedi bod yn hynod gadarnhaol, nid yn unig o Gaerdydd ond o bob rhan o Gymru a thu hwnt,” meddai Manon Rees O’Brien, prif weithredwr Menter Caerdydd.

“Mae wedi bod yn wych gweld cynulleidfa’r ŵyl gartref yn tiwnio mewn i fwynhau’r holl ddanteithion digidol a chreu Tafwyl eu hunain.

Yn ôl Alun Llwyd, prif weithredwr PYST ac AM, roedd yn “fraint” gael Tafwyl ar blatfform AM.

“Mae llwyddiant aruthrol y diwrnod, yn nhermau niferoedd gwylwyr a’r cynnwys, yn dysteb i weledigaeth greadigol, gynhwysol a chroesawgar Tafwyl a Menter Caerdydd,” meddai.

Mae cwmni Orchard hefyd wedi llongyfarch Tafwyl ar eu llwyddiant.

“Llongyfarchiadau i dîm Tafwyl am fod yn arloesol a chreadigol wrth greu digwyddiad difyr dros ben yn ein byd rhithiol presennol,” meddai Rob Light ar ran y cwmni.

“Mae Orchard yn falch o fod yn bartner cyfryngau ac roedd yn anhygoel cynhyrchu’r darllediad gan gynnig platfform i artistiaid Cymru mewn cyfnod anodd.”