Mae Heddlu Dyfed-Powys yn chwilio am ddyn 71 oed sydd ar goll o Aberteifi.

Maen nhw’n dweud bod ei gerbyd jeep Grand Cherokee wedi’i ganfod ym maes parcio Aberporth, ac mae lle i gredu ei fod wedi’i barcio yno ers rhai dyddiau.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.