Mae grŵp trawsbleidiol o Aelodau Seneddol yn pwyso ar y Llywodraeth i ystyried wythnos waith o bedwar diwrnod i helpu goresgyn yr argyfwng coronafeirws.
Mae Cyn-ganghellor yr Wrthblaid, John McDonnell, Mhairi Black o’r SNP a Caroline Lucas o’r Blaid Werdd wedi ysgrifennu at y Canghellor Rishi Sunak yn amlinellu eu dadleuon.
Maen nhw’n dweud y byddai wythnos waith bedwar diwrnod yn gwella iechyd a llesiant meddwl, ac y byddai’n hwb i’r economi, democratiaeth a’r amgylchedd.
“Nid yw er budd neb i fynd yn ôl at y pwysau a’r straen ar bobl cyn y pandemig,” meddai’r gwleidyddion.
Yn Seland Newydd, mae’r Prif Weinidog Jacina Ardern wedi cyflwyno’r syniad y gallai wythnos bedwar diwrnod helpu’r economi yn wyneb yr argyfwng.