Mae awdurdodau Tsieina wedi ail osod rhai cyfyngiadau teithio yn y brifddinas yn Beijing wrth iddyn nhw weithio i reoli achosion newydd o’r coronafeirws, ac mae dau achos newydd wedi eu cofnodi yn Seland Newydd.

Adroddodd Tsieina fod 40 o achosion newydd heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 16), a 27 ohonyn nhw yn Beijing, gan ddod â chyfanswm y ddinas i 106 ers dydd Gwener (Mehefin 12).

Mae o leiaf dri chlaf mewn cyflwr difrifol.

Mae llawer o’r achosion diweddar wedi’u cysylltu â marchnad Xinfadi yn Beijing, ac mae’r awdurdodau wedi bod yn profi gweithwyr y farchnad, unrhyw un ymwelodd â’r farchnad yn ystod y pythefnos blaenorol, ac unrhyw un ddaeth i gysylltiad â’r naill grŵp neu’r llall.

Seland Newydd

Yn Seland Newydd, mae dau achos ymhlith pobol oedd wedi teithio i wledydd Prydain.

Cyn heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 16), roedd y wlad wedi cael mwy na thair wythnos heb unrhyw achosion newydd ac wedi datgan bod pawb oedd wedi dal y feirws wedi gwella.

Mae 22 o bobol wedi marw yn y wlad.

Gweddill y byd

Mae De Corea hefyd wedi bod yn brwydro i atal y feirws rhag ailgydio, gan adrodd bod 34 o achosion newydd o Covid-19 heddiw (dydd Mawrth, Mehefin 16).

Cafodd hanner yr achosion eu canfod yn ardal fetropolitan Seoul.

Mae cannoedd o achosion diweddar wedi cael eu cysylltu â lleoliadau nos, gwasanaethau eglwysig, warws e-fasnach enfawr a gwerthwyr o ddrws i ddrws.

Yn yr Unol Daleithiau, mae’r Dirprwy Arlywydd Mike Pence yn annog llywodraethwyr i ledaenu’r “newyddion da” o ran eu hymdrechion i ymladd y feirws er gwaetha’r ffaith fod sawl talaith yn adrodd am gynnydd mewn achosion, a allai ddwysáu wrth i bobol ddychwelyd i’r gwaith a mentro allan yn ystod yr haf.

Ewrop

Yn y cyfamser, mae’r Almaen a Ffrainc wedi rhoi’r gorau i wiriadau ar y ffin bron i bythefnos ar ôl i’r Eidal agor ei ffiniau.

Mae Gwlad Groeg wedi croesawu ymwelwyr, gyda theithwyr oedd wedi hedfan o wledydd Ewropeaidd eraill ddim yn gorfod cael profion coronafeirws.

Mae Sbaen wedi rhoi’r hawl i filoedd o Almaenwyr hedfan i’r Ynysoedd Balearic heb gwarantîn 14 diwrnod mewn rhaglen beilot sydd wedi’i chynllunio i helpu’r awdurdodau i fesur yr hyn sydd ei angen i rwystro’r feirws rhag ailgydio eto.