Roedd 612,000 (2.1%) yn llai o weithwyr ar y gyflogres yng ngwledydd Prydain rhwng mis Mawrth a mis Mai, yn ôl ffigurau’r Swyddfa Ystadegau.

Ac roedd cynnydd o 1.6m yn nifer y bobol fu’n hawlio cymorth diweithdra yn ystod yr un cyfnod.

Roedd nifer y swyddi gwag oedd ar gael hefyd wedi gostwng i’w lefel isaf fis diwethaf.

Roedd cynnydd o 23.3% yn nifer y bobol fu’n hawlio Credyd Cynhwysol ym mis Mai, gyda 2.8m o hawliadau – ac mae cynnydd o 125.9% neu 1.6m wedi bod ers mis Mai pan gafodd cyfyngiadau eu cyflwyno yn sgil y coronafeirws.

Roedd cynnydd o chwe miliwn yn nifer y bobol i ffwrdd o’r gwaith hyd at ddiwedd mis Mawrth, gan gynnwys y rhai sydd wedi’u rhoi ar gennad yn sgil y feirws.

Roedd gostyngiad o 94.2m yng nghyfanswm oriau gweithwyr – gostyngiad blynyddol o 8.9% – yn ystod y tri mis hyd at fis Ebrill.

Ond fe arhosodd y gyfradd ddiwaith yn gyson ar 3.9% yn ystod y chwarter hwnnw.

‘Bwrw’r farchnad waith’

“Mae arafwch yr economi bellach i’w weld yn bwrw’r farchnad waith, yn enwedig yn nhermau’r oriau sy’n cael eu gweithio,” meddai Jonathan Athow, dirprwy ystadegydd cenedlaethol ar gyfer ystadegau economaidd y Swyddfa Ystadegau.

“Yr arwyddion cynnar ar gyfer mis Mai yw fod nifer y gweithwyr ar y gyflogres i lawr o fwy na 600,000 o gymharu â mis Mawrth.

“Roedd cyfanswm yr hawliadau i fyny eto, er nad yw’r holl bobol hyn o reidrwydd yn ddiwaith.

“Roedd data diweithdra mwy manwl hyd at Ebrill yn dangos cwymp dramatig yn nifer yr oriau gafodd eu gweithio, oedd i lawr bron i 9% yn ystod y cyfnod diweddaraf, yn rhannol o ganlyniad i gynnydd o chwe miliwn yn nifer y bobol sydd i ffwrdd o’r gwaith, gan gynnwys y rhai ar gennad.”