Mae nyrs oedd yn gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd yn y Rhyl wedi marw yno ar ôl cael ei heintio â’r coronafeirws.
Bu farw Rizal Manalo, sy’n adnabyddus i’w ffrindiau fel Zaldy, ddydd Sul (Mehefin 14) ar ôl treulio sawl wythnos mewn gofal dwys lle’r oedd o’n gweithio.
Roedd y gŵr 51 mlwydd oed wedi bod yn gweithio yn yr ysbyty ers 2001, pan gafodd ei recriwtio o’r Ffilipinas i weithio yn y gogledd.
“Roedd Zaldy yn berson sy’n gweithio’n galed ac yn caru ei swydd yn fawr,” meddai ei wraig Agnes.
“Roedd yn ŵr da ac yn dad cariadus i’w blant.
“Roedd yn gwarchod ac yn gofalu amdanom ni.”
Mae’n gadael ar ôl ei wraig, a dau o blant, Nicole, 21, a Dylan, 16.
Nyrs
Dywedodd Karen Davies, metron ar gyfer ward 5 y byddai Zaldy yn cyfarch gyda gwên yn y bore a bob amser â stori i’w hadrodd.
“Roedd yn aelod gofalgar a thosturiol o’r tîm, yn ŵr bonheddig go iawn,” meddai.
“Dywedodd cydweithiwr a chyfaill i’r teulu fod Zaldy yn cael ei adnabod fel eu ‘kuya’, hen frawd o fewn y gymuned Ffilipinaidd.
“Roedd o wrth ei fodd yn cymdeithasu a chanu, yn enwedig yn cymryd rhan mewn karaoke.
Dywedon nhw hefyd pa mor bwysig oedd ei swydd iddo a’i fod yn caru ei waith.”
Dywedodd Alison Griffiths, Cyfarwyddwr Nyrsio Ysbyty Glan Clwyd, ei bod yn “anrhydedd” gweithio gyda Mr Manalo.