Mae Mary Lou McDonald, Llywydd Sinn Fein, wedi cyhuddo Fine Gael a Fianna Fáil o “lynu at ei gilydd” er mwyn aros mewn grym.

Daw hyn wedi i Leo Varadkar, Michéal Martin ac Eamon Ryan, arweinydd y Blaid Werdd, lofnodi cytundeb i ffurfio llywodraeth glymblaid dros bedwar mis wedi etholiad cyffredinol Iwerddon.

Er i Sinn Fein ennill y bleidlais boblogaidd yn yr etholiad cyffredinol, daeth y blaid yn ail i Fianna Fáil o ran nifer y seddi a methodd y blaid â ffurfio llywodraeth yn y Dáil, neu Senedd Iwerddon.

“I’r sawl oedd yn credu mewn newid i Iwerddon, i’r sawl sydd wedi cael eu siomi dro ar ôl tro gan lywodraethau Fianna Fáil a Fine Gael, dywedaf hyn: Rwyf yn eich clywed, rwyf yn eich gweld, rwyf yn sefyll gyda chi,” meddai Mary Lou McDonald.

“Dw i ddim am ddigalonni oherwydd dw i’n credu bod Iwerddon well o fewn cyrraedd.

“Gall Fianna Fáil a Fine Gael oedi newid, ond dydyn nhw ddim yn gallu stopio newid, a dydyn nhw ddim am stopio newid.”

Iechyd a thai fforddiadwy

Dywed Mary Lou McDonald ymhellach y bydd Fianna Fáil a Fine Gael yn methu â gweithredu ar iechyd cyhoeddus na thai fforddiadwy.

“Dyw hyn ddim yn unig yn fater o beth sydd wedi cael ei ysgrifennu mewn rhaglen lywodraethol, mae’n rhaid cwestiynu a allwn ymddiried yn Fianna Fáil a Fine Gael i gyflawni’r newid sydd ei angen,” meddai.

“Yr ateb yw, na, allwn ni ddim.”