Mae teclynnau digidol wedi cael eu darparu i gartrefi gofal ledled Cymru fel rhan o gynllun gan Lywodraeth Cymru, gyda’r bwriad o alluogi preswylwyr i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, yn ogystal â helpu gydag ymgynghoriadau meddygol drwy gyswllt fideo.

Fis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyllid gwerth £800,000 er mwyn darparu dyfeisiau digidol i ofalwyr, cartrefi gofal a hosbisau.

Mae Rhaglen Cymunedau Digidol Cymru: Hyder Digidol, Iechyd a Llesiant, sy’n cael ei rheoli gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, wedi bod yn dosbarthu’r teclynnau i gartrefi gofal ledled Cymru.

Maen nhw hefyd wedi bod yn darparu cymorth a hyfforddiant i weithwyr allweddol ar sut i ddefnyddio’r dechnoleg gyda phreswylwyr cartrefi gofal.

Hyd yma, mae 745 o declynnau wedi cael eu darparu i 401 o gartrefi gofal, gyda staff 313 o gartrefi gofal yn cael hyfforddiant ar wasanaeth ymgynghoriadau fideo.

“Mae’r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar bob un ohonom, ac mae wedi bod yn arbennig o heriol i bobol hŷn a’r rheiny sy’n byw mewn cartrefi gofal na allan nhw weld eu ffrindiau a’u hanwyliaid,” meddai Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Rydym wedi gweld cynnydd aruthrol yn y defnydd o dechnoleg ddigidol ar draws y GIG a’r sector gofal cymdeithasol dros y misoedd diwethaf o ganlyniad i’r pandemig.

“Bydd llawer o’r newidiadau hyn yn aros gyda ni yn y dyfodol gan alluogi pobol i gadw mewn cysylltiad a gwella mynediad at wasanaethau.”

‘Chwyldro digidol’

“Mae cyflymder y chwyldro digidol ym maes iechyd a gofal wedi cynyddu’n sylweddol o ganlyniad i’r argyfwng hwn,” meddai Derek Walker, prif weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru.

“Gwyddom o brofiad y gall sgiliau digidol drawsnewid bywydau ac mae darparu dyfeisiau yn rhan bwysig o wella cynhwysiant digidol ynghyd â chysylltedd da.

“Rydym yn falch iawn o allu gweithio ochr yn ochr â’n cydweithwyr yn GIG Cymru a TEC Cymru er mwyn helpu i wneud y gwahaniaeth hwn.”