Mae seremoni gwobrau’r Oscars yn 2021 wedi cael ei gohirio am ddeufis yn sgil y coronafeirws.

Ebrill 25 yw’r dyddiad newydd, yn hytrach na Chwefror 28.

Mae rheolau’r gwobrau hefyd wedi cael eu haddasu yn sgil y pandemig, gyda’r dyddiad cau ar gyfer ymgeiswyr wedi’i ymestyn y tu hwnt i Ragfyr 31.

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod ffilm wedi’i rhyddhau rhwng Ionawr 1 a Chwefror 28 y flwyddyn nesaf.

Rhagfyr 1 yw’r dyddiad cau ar gyfer y categorïau mwy arbenigol, sef ffilm nodwedd wedi’i hanimeiddio, ffilm ddogfen nodwedd, dogfen fer, ffilm nodwedd ryngwladol, ffilm fer wedi’i hanimeddio a ffilm fer fyw.

Y dyddiad cau ar gyfer categorïau mwy cyffredinol, gan gynnwys y llun gorau, cerddoriaeth a chân wreiddiol, yw Ionawr 15.

Yn dilyn y penderfyniad i ohirio’r Oscars, mae dyfalu y gallai’r Golden Globes a gwobrau’r Screen Actors Guild hefyd gael eu gohirio.

Dyma’r pedwerydd tro i’r Oscars gael eu gohirio – roedd llifogydd yn 1938, cafodd Martin Luther King ei lofruddio yn 1968 ac roedd ymgais i lofruddio’r Arlywydd Ronald Reagan yn 1981.

‘Ffilmiau’n bwysig’

Yn dilyn gohirio’r Oscars, dywed David Rubin, Llywydd yr Academy a’r prif weithredwr Dawn Hudson fod ffilmiau’n bwysicach nag arfer yn ystod ymlediad y coronafeirws.

“Ers dros ganrif, mae ffilmiau wedi chwarae rhan bwysig wrth ein cysuro, ysbrydoli a’n diddanu ni yn ystod y cyfnodau mwyaf tywyll,” meddai’r ddau.

“Maen nhw’n sicr wedi gwneud hynny eleni.

“Ein gobaith, o ymestyn y cyfnod cymhwyso a dyddiad ein gwobrau, yw cynnig yr hyblygrwydd sydd ei angen ar wneuthurwyr ffilmiau er mwyn gorffen a chyhoeddi eu ffilmiau heb gael eu cosbi am rywbeth sydd y tu hwnt i reolaeth unrhyw un.

“Bydd yr Oscars sydd i ddod ac agor ein hamgueddfa newydd yn nodi eiliad hanesyddol, gan ddod â ffans ffilmiau o amgylch y byd ynghyd drwy sinema.”