Mae actor Bollywood poblogaidd wedi’i ganfod yn farw yn ei fflat, yn ôl adroddiadau.

Mae lle i gredu i Sushant Singh Rajput grogi yn ei gartref ym Mumbai.

Fe ddaeth yr actor 34 oed i amlygrwydd yn 2013 yn y ffilm Kai Po Che dan gyfarwyddyd Abhishek Kapoor.

Mae e hefyd yn adnabyddus am chwarae cymeriad Mahendra Singh Dhoni, capten tîm criced India, yn y ffilm MS Dhoni: The Untold Story yn 2016.

Ymhlith ei ffilmiau eraill mae Kedarnath, Sonchiriya a Raabta, a’i ffilm ddiweddaraf oedd Drive ar Netflix.

Daw ei farwolaeth yng nghanol y pandemig coronafeirws, sydd wedi dod â diwydiant ffilm y wlad i ben am y tro.

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrnged iddo mae’r prif weinidog Narendra Modi a’i gyd-actorion Akshay Kumar a Nawazuddin Siddiqui.