Mae tair o bleidiau Iwerddon yn cyfarfod yn ninas Dulyn heddiw (dydd Sul, Mehefin 7) i drafod ffurfio llywodraeth.

Daeth y trafodaethau rhwng Fianna Fáil, Fine Gael a’r Blaid Werdd i ben neithiwr (nos Sadwrn, Mehefin 6) heb gytundeb ar nifer o faterion gan gynnwys oedran pensiwn, polisi allyriadau carbon, amaeth a thai.

Mae’r tair plaid hefyd yn cynnal trafodaethau ag aelodau annibynnol o’r Dáil er mwyn ceisio’u cefnogaeth.

Aeth bron i bedwar mis heibio bellach ers etholiad cyffredinol mis Chwefror a’r gobaith yw y bydd modd cyhoeddi cytundeb ddiwedd yr wythnos hon.

Proses ‘hir’

Yn ôl Martin Heydon o Fine Gael, fe fu’r broses o drafod cytundeb posib yn un “hir”.

“Mae’r tîm a’r staff negodi wedi gweithio o fore gwyn tan nos dros yr wythnosau diwethaf,” meddai, gan ddweud bod rhai camau wedi’u cymryd tuag at gytundeb.

“Ond mae nifer o feysydd arwyddocoaol heb eu cytuno hefyd.

“Dw i’n obeithiol y gallen ni gael cytundeb cyn y penwythnos nesaf ond dyw hynny ddim yn sicr o bell ffordd.”

‘Dod i fwcwl’

Yn ôl Marc MacSharry o Fianna Fáil, eu blaenoriaeth yw “dod â’r trafodaethau i fwcwl”.

“Mae wedi golygu cyfaddawdu hyd yn hyn, mae rhai materion anodd o hyd ond rydym yn obeithiol iawn fod modd ymdrin â nhw.

“Rydym oll yn obeithiol, mae er lles pawb gan gynnwys y wlad gyfan fod gyda ni raglen lywodraeth sy’n gallu wynebu’r heriau enfawr rydyn ni’n eu hwynebu.”

Sinn Fein yn beirniadu

Ond mae Sinn Fein yn beirniadu’r glymblaid bosib, gan ddweud nad dyma sydd ei hangen ar Iwerddon.

“Dw i ddim yn meddwl bod gobaith o gwbl fod pleidiau sydd heb fod mewn grym ers sefydlu’r wladwriaeth yn gallu esgor ar newid go iawn a phellgyrhaeddiol y mae angen i ni ei weld yn digwydd,” meddai David Cullinane ar ran y blaid.

Yn y cyfamser, mae Eamon Ryan, arweinydd y Blaid Werdd, yn wynebu her i’w arweinyddiaeth gan ei ddirprwy Catherine Martin.

Ond mae hi’n dweud na fydd hynny’n digwydd tan ar ôl i’r trafodaethau ddod i ben.