Mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, wedi wfftio awgrym gwyddonwyr sy’n cynghori Llywodraeth Prydain fod gwarchae’r coronafeirws wedi dod yn rhy hwyr.

Mae’n mynnu bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud “y penderfyniadau cywir ar yr adeg iawn”, er bod yr Athro John Edmunds, sy’n aelod o bwyllgor cynghori SAGE, yn dweud y gellid fod wedi achub llawer iawn mwy o fywydau o gyflwyno’r gwarchae’n gynt.

Dyw Matt Hancock ddim y cytuno â’r sylwadau, meddai ar raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Dw i’n credu ein bod ni wedi gwneud y penderfyniadau cywir ar yr adeg iawn,” meddai.

“Ac mae barn wyddonol Sage yn amrywio’n helaeth, ac rydym yn cael ein harwain gan wyddoniaeth – sy’n golygu cydbwysedd o’r farn honno – fel gafodd ei fynegi wrth weinidogion drwy law’r prif swyddogol meddygol a’r prif ymgynghorydd gwyddonol.

“Dyna’r ffordd iawn o fod wedi gwneud pethau.”

Protestiadau

Yn y cyfamser, mae Matt Hancock yn dweud ei fod yn poeni am gyfres o brotestiadau yn erbyn marwolaeth George Floyd.

Mae’r protestiadau’n digwydd mewn sawl ardal dros y penwythnos, yn dilyn marwolaeth y dyn croenddu dan law’r heddlu ym Minneapolis yn yr Unol Daleithiau.

Yn ôl Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, mae’n “risg yn ddiau” i iechyd y cyhoedd fod y protestiadau’n cael eu cynnal, ac mae’n annog pobol i beidio ag ymgynnull mewn grwpiau o fwy na chwe person ar y tro.