Mae ffoadur 84 oed oedd â rhan flaenllaw yn hil-laddiad Rwanda wedi cael ei arestio yn Paris.
Mae Felicien Kabuga wedi’i amau o arfogi milwyr yn ystod y cyfnod pan gafodd mwy nag 800,000 o Tutsis a Hutus cymhedrol eu lladd.
Daw’r datblygiad diweddaraf yn dilyn ymchwiliad gan awdurdodau rhyngwladol, ac fe ddaeth i’r amlwg ei fod e wedi bod yn byw ym mhrifddinas Ffrainc ac yn defnyddio ffugenw.
Mae wedi’i amau ers 1997 o gynllwynio i gyflawni hil-laddiad, erlidigaeth a lladd.
Yn ôl erlynwyr yn Rwanda, mae dogfennau wedi dod i’r amlwg yn dangos ei fod e wedi defnyddio’i gwmnïau i fewnforio cyllyll machete a gafodd eu defnyddio i ladd pobol.
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o sefydlu gorsaf radio a theledu i ddarlledu propaganda maleisus yn erbyn y Tutsis, ac o hyfforddi milwyr i ladd.
Mae disgwyl iddo gael ei drosglwyddo i ofal y Cenhedloedd Unedig er mwyn sefyll ei brawf.
Mae’r awdurdodau’n dal i chwilio am nifer o unigolion eraill.