Mae Piers Corbyn, brawd y cyn-arweinydd Llafur Jeremy Corbyn, wedi cael ei dywys o Hyde Park mewn cyffion gan yr heddlu.
Roedd e yno ar gyfer protest yn erbyn cyfyngiadau’r coronafeirws, lle’r oedd protestwyr yn trafod y cyswllt honedig rhwng y feirws a thechnoleg 5G.
Roedd ganddo fe uchelseinydd yn y parc, ac yn beirniadu “llwyth o gelwyddau i’ch darbwyllo ac i gadw trefn arnoch chi”.
Cafodd ei dywys o’r safle gan yr heddlu ar ôl gwrthod gadael, ac am wrthod rhoi ei fanylion i’r heddlu.
Roedd y protestwyr yn dal placardiau’n dweud “rhyddid dros ofn”, a rhai ohonyn nhw’n dweud bod y feirws yn “ffug” ac yn “gelwydd i gadw trefn ar bobol”.