Mae Gordon Brown, cyn-brif weinidog Prydain, yn galw ar wledydd y G20 i beidio â elwa’n ormodol o nwyddau meddygol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r coronafeirws.
Mae peiriannau anadlu, pecynnau profi a chyfarpar diogelu yn cael eu gwerthu am symiau uchel o arian, ac mae disgwyl y gallai gwledydd frwydro yn erbyn ei gilydd er mwyn sicrhau adnoddau prin.
Mae’n arbennig o feirniadol o’r Unol Daleithiau, ac yn eu cyhuddo o agwedd “America’n gyntaf” a “chenedlaetholdeb ni-yn-eu-herbyn-nhw”, gan ddweud bod gan Tsieina, India, Rwsia, Brasil a Thwrci agweddau tebyg.
“Ond rhaid i’r gwledydd sydd wedi’u hynysu fwyaf wybod nad yw’n ddigon i atal y coronafeirws mewn un wlad: rhaid atal y feirws ym mhob gwlad,” meddai.
“Dylai’r G20 gefnogi a chyflymu’r ymdrechion byd-eang i ddatblygu, gweithgynhyrchu a dosbarthu brechlyn a thriniaethau.
“Mae angen pecynnau profi, peiriannau anadlu, cemegion glanhau a chyfarpar diogelu ar bob gwlad, bron i gyd ar yr un pryd.
“Felly yn hytrach na brwydrau bidio sy’n annog gwneud elw, dylai’r G20 gefnogi ymdrechion Sefydliad Iechyd y Byd a’r Gronfa Fyd-eang i gydlynu a chynyddu’n sylweddol y gwaith o gynhyrchu a chaffael y cyflenwadau meddygol allweddol hyn ac adeiladu, dros gyfnod o amser, nwyddau, stoc a gweithlu byd-eang, gyda thariff a rhwystrau amddiffynnol eraill wedi’u dileu.
“Ddylai dim byd atal yr hyn sy’n cael ei gynhyrchu’n dorfol mewn un wlad ac ar ei chyfer, rhag cael ei gynhyrchu ar gyfer gwlad arall.”
Gwersi’r wasgfa ariannol yn 2008
Dywed Gordon Brown y dylai arweinwyr gwledydd y G20 ddysgu oddi wrth y wasgfa ariannol yn 2008.
Mae’n dweud bod mesurau ariannol brys bryd hynny wedi “adfer twf yn gyflym”, a bod angen “cydweithio” wrth sicrhau bod y nwyddau angenrheidiol ar gael ar draws y byd “sy’n dechrau deall ei fod yn llawer mwy annibynnol ac yn fwy bregus o lawer nag erioed”.