Mae Syr Lindsay Hoyle, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin, wedi annog Rhif 10 Downing i helpu’r ymdrechion i alluogi Aelodau Seneddol i ddod yn rhan o Senedd rith.
Dywed nad oes gan Dŷ’r Cyffredin y drwydded ddiogelwch sydd ei angen, ond fod gan Rif 10 un y gallen nhw ei rhannu.
Daw ei sylwadau wedi i Aelodau Seneddol fynegi rhwystredigaeth wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi pecyn cefnogaeth i bobol hunangyflogedig heddiw (dydd Iau, Mawrth 26), 24 awr ar ôl i Dŷ’r Cyffredin ddod i ben yn gynnar ar gyfer y Pasg yn sgil y pandemig coronafeirws.
Mae rhai yn galw am gynadleddau fideo er mwyn cwestiynu gweinidogion ac i Aelodau Seneddol allu cyfrannu at weithrediadau seneddol.
Technoleg
“Mae yna bethau y gallwn ni eu dysgu, mae yna dechnoleg y gallwn ni ei chyflwyno,” meddai Syr Lindsay Hoyle wrth y Siambr cyn y gohiriad.
“O ran diogelwch, does gennym ni ddim trwydded ac mi wna i gyflwyno apêl i Arweinydd y Tŷ [Jacob Rees-Mogg] fod gan Downing Street drwydded – os gallwn ni rannu honno, byddai hynny yn galluogi ein technoleg i symud yn gyflym iawn i alluogi aelodau i ddod yn rhan o Senedd rith a chynulliadau rhith.
“Byddwn yn ddiolchgar iawn pe bai hyn yn cael ei ystyried.”