Mae 17 o blismyn wedi’u lladd ac 14 yn rhagor wedi’u hanafu yn dilyn ymosodiad gan wrthryfelwyr Maoaidd yn nwyrain India.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ger pentref Elmaguda yn rhanbarth Sukma yn nhalaith Bihar.
Cafwyd hyd i gyrff y plismyn heddiw (dydd Sul, Mawrth 22).
Mae’r ardal yn un o gadarnleodd y gwrthryfelwyr, sydd wedi bod yn ymladd mewn sawl talaith ers dros 40 mlynedd.
Maen nhw’n mynnu tir a swyddi mewn cymunedau tlawd sydd, medden nhw, yn cael eu hanwybyddu gan y llywodraeth.