Mae daeargryn yn mesur 5.3 ar raddfa Richter wedi taro Croatia, gydag adroddiadau bod person 15 oed wedi marw.
Cafodd 16 o bobol eu hanafu i gyd, yn ôl yr awdurdodau.
Fe darodd y daeargryn ardal ychydig filltiroedd y tu allan i’r brifddinas Zagreb am 6.23yb.
Ond cafodd nifer o adeiladau’r ddinas eu siglo ac roedd peth difrod wrth i goncrid gwympo a tharo cerbydau.
Roedd peth difrod i eglwys gadeiriol Zagreb hefyd.
Mae’r ddinas eisoes dan fesurau llym oherwydd y coronafeirws ac roedd pobol wedi cael gorchymyn i gadw draw o barciau a llefydd cyhoeddus eraill, ond doedd ganddyn nhw ddim dewis ond mynd iddyn nhw er mwyn aros yn ddiogel.
Yn ôl y rheolau, gall hyd at bump o bobol aros gyda’i gilydd ar y tro.
Mae nifer o gartrefi heb drydan ac mae adroddiadau bod sawl tân hefyd gyda nifer o ôl-gryniadau wedi’u teimlo.
Yn ôl y prif weinidog Andrej Plenkovic, dyma’r daeargryn mwyaf yn y wlad ers 140 o flynyddoedd.