Wrth i’r coronafeirws ledaenu drwy’r byd daw rhywfaint o obaith ei fod yn cychwyn dod o dan reolaeth yn y rhan o Tsieina lle daeth i’r amlwg gyntaf.

Does dim achosion newydd o’r feirws wedi cael ei gofnodi yn y Wuhan, y ddinas sydd wedi bod yn ganolbwynt iddo, nac yng ngweddill talaith Hubei.

Hyd at yn ddiweddar, roedd miloedd o achosion newydd yn cael eu cofnodi bob dydd yn y ddinas gan lethu ei system iechyd.

Mae 34 o achosion newydd wedi dod i’r amlwg yn Tsieina dros y diwrnod diwethaf, ond pob un ohonyn nhw o bobl sy’n cyrraedd yno o dramor.

Mae Tsienia wedi cychwyn llacio cyfyngiadau ar deithio o fewn y wlad, ond yn gosod cwarantin llym am 14 diwrnod i’r rheini sy’n cyrraedd yno o dramor. Mae llawer o fyfyrwyr Tsieineaidd yn dychwelyd adref ar hyn o bryd.

Mae Tsieina bellach wedi cofnodi cyfanswm o 80,928 o achosion wedi eu cadarnhau o’r feirws, gyda 3,245 o farwolaethau. Mae 70,420 wedi cael dod adref o’r ysbyty a 7,263 yn dal i dderbyn triniaeth.