Mae llywodraethau Cymru a Phrydain wedi bod yn ymateb i’r newyddion na fydd arholiadau’n cael eu cynnal mewn ysgolion yn yr haf o ganlyniad i ymlediad y coronafeirws.
Daeth cadarnhad gan Gavin Williamson, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, na fyddai arholiadau nac asesiadau’n cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol.
Ac mae’n dweud na fydd tablau perfformiad yn cael eu cyhoeddi ychwaith.
“Fe wnawn ni beth bynnag sydd ei angen i gefnogi awdurdodau lleol, ysgolion ac athrawon yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod.”
Ymateb Cymru
Yn gynharach, roedd Kirsty Williams, Ysgrifennydd Addysg Llywodraeth Cymru, wedi dweud nad oedd hi’n disgwyl i arholiadau gael eu cynnal yng Nghymru yn yr haf.
Bryd hynny, awgrymodd hi y byddai disgyblion Blwyddyn 11 a Blwyddyn 13 yn cael eu hasesu drwy asesiadau yn hytrach nag arholiadau.
Ond mae Suzy Davies, llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig wedi mynegi pryder, er ei bod hi’n dweud bod y cyhoeddiad yn “anochel”.
“Yn wyneb y cyhoeddiad cynharach am gau ysgolion o ddydd Gwener, roedd hyn yn anochel,” meddai.
“Fy mhryder, fel bob tro, yw’r myfyrwyr a fyddai wedi bod yn sefyll arholiadau, ac fe fydd yn gwbl hanfodol y daw canlyniad y trafodaethau am effaith bosib ar ofynion mynediad i brifysgolion yn glir.
“Fe wnes i godi’r cwestiwn yn y Cynulliad heddiw yn wyneb y pryder sydd wedi’i fynegi gan ddisgyblion ac athrawon ledled Cymru.
“Bydd angen sicrwydd nawr ynghylch manylion sut fydd graddau’n cael eu penderfynu.
“Er enghraifft, fe fydd y rhai oedd yn gobeithio codi eu sgôr cyffredinol drwy ragori mewn asesiadau ymarferol na fyddan nhw bellach yn cael eu cynnal, yn dymuno gwybod fod y sgiliau hynny’n cael eu cydnabod yn eu gradd yn y pen draw.”