Mae gŵyl Glastonbury wedi cael ei gohirio tan 2021 yn sgil y pandemig coronafeirws, meddai’r trefnwyr.

Roedd yr ŵyl gerddoriaeth i fod yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni.

Mae’r trefnwyr, Michael ac Emily Eavis wedi cadarnhau y bydd tocynnau eleni yn ddilys ar gyfer 2021.

Daw hyn wedi i’r llywodraeth alw ar bobol i osgoi tafarndai, clybiau a theatrau, unrhyw gysylltiad gyda phobl eraill sydd ddim yn angenrheidiol, ynghyd a theithio os nad oes angen, a gweithio o adref os yn bosib.

“Nid dyma’r dull gweithredu yr oeddem eisiau ei gymryd gyda’n digwyddiad pen-blwydd 50, ond yn dilyn mesurau mae’r llywodraeth wedi eu cyhoeddi wythnos yma – ac mewn cyfnod mor ansicr – dyma’r unig opsiwn,” meddai datganiad gan y trefnwyr.

Mae Michael ac Emily Eavis wedi annog y sawl sydd eisiau eu harian yn ôl i gysylltu gyda See Tickets yn y dyddiau nesaf.

Roedd Glastonbury, sy’n denu oddeutu 200,000 o bobol i Wlad yr Haf pob blwyddyn, i fod i gael ei gynnal rhwng Mehefin 24-28.