Mae Hosni Mubarak, cyn-Arlywydd yr Aifft, wedi marw’n 91 oed.

Cafodd ei symud o’i swydd yn ystod gwrthdystiad yn 2011 ar ôl bod mewn grym am bron i dri degawd.

Cafodd ei orfodi i ymddiswyddo ar ôl 18 diwrnod o brotestiadau yn y wlad.

Roedd e’n gyfaill mawr i’r Unol Daleithiau, yn ymgyrchydd brwd yn erbyn cyfundrefnau milwrol Islamaidd ac yn lladmerydd heddwch.

Mae lle i gredu iddo farw yn yr ysbyty yn Cairo, lle bu’n derbyn triniaeth am gyflwr anhysbys.

Cafwyd e’n euog yn 2012 o atal 900 o brotestwyr rhag cael eu lladd y flwyddyn gynt, ond cafwyd e’n ddieuog yn 2014 yn dilyn apêl.

Ond y flwyddyn ganlynol, cafodd e a’i feibion eu carcharu am dair blynedd am lygredd.