Mae David Jones, cadeirydd newydd Cymwysterau Cymru, yn awgrymu y gallai myfyrwyr Cymru weld mwy o ddefnydd o asesiadau electroneg yn y cwricwlwm newydd, gan gynnwys sefyll arholiadau ar-lein.

Ond mae Suzy Davies, yr Aelod Cynulliad Ceidwadol, wedi mynegi pryder am ymarferoldeb y drefn newydd.

“Er nad ydw i’n gyfan gwbl yn erbyn y syniad, mae angen mwy o drafodaeth a llawer mwy o fanylion cyn y galla i roi A* iddo,” meddai llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig.

“Mae bywydau llawer o bobl ifanc a phobl oedran ysgol yn gynyddol ar-lein, ac mae llawer o ddysgu yn barod yn digwydd yn ddigidol- byddai angen i mi weld llawer mwy o fanylion cyn ei hyrwyddo.

“Beth sydd yn fy mhoeni i yw sawl myfyriwr fyddai’n gallu sefyll arholiad ar un tro.

“Ac eithrio dosbarthiadau TGCh, does gan yr un dosbarth gyfrifiadur yr un i bob disgybl, heb sôn am flwyddyn gyfan neu grŵp i’w harholi ar yr un pryd.”

Problemau ychwanegol

Mynegodd hefyd sut mae “mynd yn ddigidol” yn medru cyflwyno problemau ychwanegol.

Mae hi wedi cyfeirio at fis Mai diwethaf pan fu rhaid i fwrdd arholi CBAC ymddiheuro am y “materion technegol” a amharodd ar arholiad TGAU Gwyddoniaeth ar ffurf electronig.

“Mae cyfnod arholiadau yn ddigon anodd fel mae hi, ond byddai oedi ar y cychwyn – ac yn ôl y sôn fe effeithiodd hyn lawer o fyfyrwyr mewn sawl sir yng Nghymru – yn gallu bwrw’r person ifanc mwyaf parod a chyfarwydd oddi ar ei echel.

“Mae angen sicrwydd na fyddai sefyllfa fel hyn yn digwydd eto.”