Mae tair rhywogaeth o anifeiliaid sy’n prinhau – sef siarcod gwyngalch, eliffantod Asiaidd a’r jagiwar – wedi cael eu hychwanegu at restr gadwraeth ryngwladol.
Fe fyddan nhw bellach yn cael eu hamddiffyn dan gytundeb gan Y Cenhedloedd Unedig i Warchod Rhywogaethau Mudol, sydd wedi ei arwyddo gan 130 o wledydd ac sy’n cynnwys adar, mamaliaid a bywyd gwyllt arall.
Ar un adeg roedd y siarc gwyngalch cefnforol yn un o siarcod trofannol mwyaf cyffredin yn y byd, ond mae bellach wedi’i restru fel un sydd mewn perygl difrifol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gronfa Ryngwladol ar gyfer Lles Anifeiliaid (IFAW): “Mae degawdau o orbysgota heb ei reoli, a galw rhyngwladol am gawl esgyll siarc, wedi achosi i’r boblogaeth ddirywio yn sylweddol.”
Fe fydd eliffantod Asiaidd yn cael yr amddiffyniad uchaf posibl yn India, lle mae 60% o’r rhywogaeth yn byw. Gyda gostyngiad o 40% yn nifer y jagiwar dros y 100 mlynedd diwethaf mae’r gath fawr hefyd yn cael ei rhestru am y tro cyntaf erioed.
Ychwanegodd llefarydd IFAW, “Mae atal colli cynefin a dinistrio coridorau mudol yn hanfodol, yn enwedig ar gyfer poblogaethau ynysig sydd mewn perygl.”