Mae papur £20 newydd ac arno lun o’r artist enwog JMW Turner wedi ymddangos mewn tyllau wal heddiw (dydd Iau, Chwefror 20).

Bydd y nodyn plastig newydd yn cymryd lle’r hen £20 oedd yn â darlun o’r economegydd Adam Smith ac mae wedi cael ei alw’n nodyn arian mwyaf diogel Banc Lloegr erioed.

Mae’r banc yn disgwyl i hanner tyllau wal y Deyrnas Unedig fod yn dosbarthu’r £20 newydd ymhen pythefnos.

Yn fab i farbwr a dyn creu wigiau, daeth Joseph Mallord William Turner yn un o’r meistri am beintio.

Cynhaliodd ei arddangosfa gyntaf yn y Royal Academy yn 1790 pan yn 15 oed.

Cynhyrchodd dros 550 o baentiadau, 2,000 o ddyfrlliwiau a 30,000 braslun a lluniau.