Mae Mark Drakeford yn galw am gymorth ariannol gan Trysorlys yn Llundain i glirio ar ôl dinistr llifogydd y pythefnos ddiwethaf.
Daw galwad Prif Weinidog Cymru ar ôl cyfarfod brys rhyngddo ac arweinwyr cynghorau a chyrff cyhoeddus eraill bnawn ddoe i drafod effeithiau’r llifogydd.
Roedd eisoes wedi cyhoeddi cronfa o £10 miliwn a fydd yn cael ei sefydlu yn ystod y dyddiau nesaf ar gyfer ymateb cychwynnol i’r llifogydd.
“Fe ddaeth yn gwbl glir i mi o’r cyfarfod y bydd y symiau y bydd eu hangen ledled Cymru yn llawer gwaith £10 miliwn,” meddai Mark Drakeford.
“Fe fyddaf yn ysgrifennu at y Trysorlys yn esbonio graddfa’r difrod, yn ceisio cael cymorth ganddyn nhw.”
Dywedodd nad yw’n gwbl glir eto beth yw cyfanswm y nifer o dai a busnesau sydd wedi cael eu taro yng Nghymru.
“Dw i’n meddwl bod y niferoedd yn debygol o godi oherwydd mae awdurdodau lleol yn darganfod tai a busnes nad oedden nhw’n gwybod eu bod wedi cael eu taro,”meddai.
“Dw i’n meddwl y bydd y ffigur ymhell dros fil. Fe fydd yn rhai dyddiau hyd nes y byddwn yn gwbl sicr o’r effaith.”
‘Straen emosiynol’
Mae’n disgrifio gweld y “straen emosiynol” ar bobl sydd wedi dioddef ar ôl ymweld â thai a busnesau dros y dyddiau diwethaf.
“Dwi wedi bod i weld pobl mewn tai sydd wedi dioddef difrod ofnadwy,” meddai Mark Drakeford.
“Mae’r rhain yn dai mae pobl wedi treulio eu bywydau ynddynt, mae eu teuluoedd wedi cael eu magu ynddynt ac maent wedi buddsoddi eu dyfodol yn y tai.”
Dywed Mark Drakeford ei fod o am sicrhau pobl bod Llywodraeth Cymru “ar ei hochr nhw” yn dilyn y llifogydd.