Daeth y rhwygiadau chwerw yng ngwleidyddiaeth America i’r amlwg yn araith ‘State of the Union’ Donald Trump gerbron y Gyngres yn Washington neithiwr.
Yn ôl yr arlywydd, mae America “yn gryfach nag erioed o’r blaen”, ond fe wnaeth Llefarydd y Tŷ, Nancy Pelosi, rwygo ei chopi o’r araith ar ôl iddo orffen siarad.
Er mai ef yw’r arlywydd cyntaf i geisio cael ei ailethol ar ôl cael ei uchel-gyhuddo, roedd llawer o’i gyd-wleidyddion o’r blaid Weriniaethol yn ei gymeradwyo’n gyson gan weiddi “Four more years” tra oedd Democratiaid yn aros yn ddistaw.
“Mae gelynion America ar ffo, mae tynged America ar y fyny ac mae dyfodol America yn disgleirio,” meddai Donald Trump.
“Rydym yn symud ymlaen ynghynt nag y byddai neb wedi’i ddychmygu dim ond ychydig amser yn ôl, a fyddwn ni byth yn mynd yn ôl.”
Drwy ei holl araith, roedd yn hawlio clod am lwyddiant economaidd America fel y prif gyfiawnhad dros ail dymor yn ei swydd.
Roedd yn traddodi ei araith gerbron y gwleidyddion a bleidleisiodd dros ei ddiswyddo – a’r rheini sy’n debygol o’i amddiffyn pan ddaw’r achos uchel-gyhuddo gerbron y Senedd, lle mae mwyafrif gan y Gweriniaethwyr.
Yn eistedd y tu ôl iddo roedd Nancy Pelosi, a oedd wedi awdurdodi’r achos uchel-gyhuddo yn ei erbyn. Roedd Donald Trump wedi gwrthod ysgwyd llaw gyda hi, a thalodd hi’r pwyth yn ôl trwy rwygo ei araith.