Fel rhan o’u dathliadau i nodi canmlwyddiant y sefydliad, mae staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi plannu 50 o goed derw ar Gampws Parc Singleton a Champws y Bae.

“Bydd y prosiect i blannu Coed Derw ar gyfer y Canmlwyddiant yn cynnwys plannu 50 o goed ar draws y ddau gampws i gydnabod ein diolchgarwch i goed teulu Vivian ac i sicrhau y bydd myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach yn mwynhau manteision tebyg pan fydd y Brifysgol yn dathlu’i hail ganmlwyddiant” meddai Benjamin Sampson, Swyddog Bioamrywiaeth y Brifysgol, arweinydd y fenter.

“Mae’r coed derw ar safle Singleton Abertawe bellach yn dechrau dirywio’n araf,” meddai.

“Ni ellir plannu coed newydd i gymryd lle coed hynafol yn y tymor byr; bydd coed derw a blannir heddiw’n cymryd o leiaf 100 o flynyddoedd i gyrraedd eu llawn dwf. Er y plannwyd llawer o goed ar y ddau gampws yn ddiweddar, a fydd yn rhoi manteision amrywiol i’r amgylchedd, bydd rhan fwyaf yn byw am gyfnod cymharol fyr a byddant wedi hen fynd cyn y coed derw.”

Mae’r gwaith wedi dechrau yr wythnos hon i blannu’r coed derw cyn eu dathliadau mawr ar Orffennaf 19 eleni. Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn cael eu cynnal i olrhain hanes y Brifysgol dros y misoedd nesaf.