Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £650,000 mewn cwmni meddygol sy’n addo creu 91 o swyddi newydd dros y tair blynedd nesaf.
Mae Williams Medical Supplies o Gaerffili yn cyflogi 178 o bobl, lleol yn bennaf, a bydd y nifer yma’n codi i 269 gyda help y buddsoddiad newydd.
Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 1986, a nhw erbyn hyd ydi prif gyflenwyr y farchnad feddygol ym Mhrydain.
“Mae Williams Medical Supplies yn arweinwyr yn eu maes ac mae cyhoeddiad heddiw am sicrhau y byddan nhw yn parhau fel cyflogwyr amlwg yn yr ardal am flynyddoedd i ddod,” meddai Gweinidog yr Economi, Ken Skates.
“Mae ystadegau diweddar yn dangos fod diweithdra yng Nghymru ar ei isaf ers blynyddoedd ac mae’r cyhoeddiad hwn yn adlewyrchiad o sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnes ac yn creu mwy o swyddi.”
Wrth groesawu’r buddsoddiad, meddai Hugh Hamer, Rheolwr Gyfarwyddwr Williams Medical Supplies:
“Mae gennym gynlluniau ehangu uchelgeisiol yma, ac mae’n gyffrous i weld buddsoddiad yn ei hadran yn Rhymni i gefnogi hyn. Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i Williams a’r gymuned ehangach yn elfen allweddol i lwyddiant y prosiect.”