Mae Cyngor Sir Fôn wedi penodi prifathro ysgol uwchradd ar yr ynys i helpu datrys trafferthion mewn ysgol arall yno.
Fe fydd Emyr Williams yn gweithredu fel pennaeth dros dro Ysgol Uwchradd Bodedern yn ogystal â pharhau â’i ddyletswyddfau fel pennaeth Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
Mae’r penodiad yn rhan o becyn o fesurau arbennig yn yr ysgol lle’r oedd y pennaeth blaenorol wedi gadael ei swydd oherwydd salwch hirdymor. Fe fydd Bwrdd Gwelliant Strategol yn cychwyn ar ei waith am gyfnod cychwynnol o flwyddyn yn fuan.
“Fel y pennaeth strategol newydd, mi fyddaf yn sicrhau mai disgyblion yr ysgol yw ein prif flaenoriaeth,” meddai Emyr Williams. “Dw i’n hynod ymwybodol o bryderon disgyblion a’u rhieni a byddaf yn cydweithio â’r Bwrdd i roi’r cymorth sydd ei angen i’r ysgol wneud cynnydd sylweddol.”
Mae gan gynghorau gyfrifoldeb statudol i fonitro a rhoi cymorth ychwanegol pan fydd ysgol yn wynebu trafferthion difrifol.
Meddai deilydd portffolio Addysg Sir Fôn, y Cynghorydd Meirion Jones:
“Mae’r camau ychwanegol hyn yn cael eu cymryd er budd y disgyblion a theimlwn mai cymorth gan bennaeth strategol a Bwrdd yw’r ffordd orau ymlaen i Ysgol Uwchradd Bodedern.”