Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am lygad dystion yn dilyn marwolaeth dyn 19 oed yn Aberteifi ddydd Iau, 30 Ionawr.

Cafodd Callum Lawrence o ardal Aberteifi ei ddarganfod gan aelod o’r cyhoedd ar Stryd y Cei am 7 o’r gloch yr hwyr.

Mae merch 16 mlwydd oed nawr wedi cael ei harestio ar amheuaeth o werthu cyffuriau, ac wedi ei rhyddhau o dan archwiliad.

Mae Ditectif Arolygydd Aberteifi Richard Yelland yn apelio am unrhyw un oedd ar Stryd y Cei nos Iau.

“Rydw i’n awyddus i gael gafael ar yrrwr car bach gwyn a stopiodd am gyfnod byr ar bwys lle cafodd Callum ei ddarganfod, cyn gyrru i ffwrdd,” meddai.

“Mae fy meddyliau gyda theulu Callum yn ystod y cyfnod anodd yma, a dw i’n annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â’r Heddlu ar 101, a dyfynnu’r rhif DP-20200130-313.”