Mae’r heddlu’n dal i chwilio am Michael O’Leary o Nantgaredig yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi bod ar goll ers dydd Llun yr wythnos ddiwethaf.
Maen nhw wedi cyhoeddi llun teledu cylch cyfyng o feiciwr yn yr ardal rhwng Capel Dewi a Cwmffrwd y noson honno ac yn apelio am wybodaeth ganddo neu amdano.
Yn y cyfamser mae dyn lleol, Andrew Jones, 52 oed o Bronwydd ger Caerfyrddin yn cael ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o lofruddio Michael O’Leary.
Meddai’r Ditectif Brif Arolygydd Paul Jones:
“Ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw cael hyd i Mr O’Leary ac rydym yn gwneud popeth i geisio cael atebion i’w deulu. Mae hyn yn cynnwys gwybod mwy am y person yn y llun gan rywun sydd wedi ei weld ef neu hi. Mae’n ymddangos bod y beiciwr yn gwisgo siaced hi-vis.
“Os oes rhywun yn gwybod pwy yw’r beiciwr, neu wedi gweld y beiciwr yn yr ardal, cysylltwch â’r heddlu.
“Gofynnwn hefyd i unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd, ac sydd heb siarad gyda ni eisoes, ddod ymlaen. Efallai fod ganddyn nhw, yn ddiarwybod, wybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad.
“Mae hyn yn amlwg yn adeg gofidus iawn i’r teulu ac rydym yn parhau i’w diweddaru ag unrhyw wybodaeth a gawn.”
Mae disgwyl i Andrew Jones ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe heddiw.