Mae adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dangos fod traean o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru yn torri’r gyfraith drwy beidio â chydymffurfio â’r terfyn amser statudol ar gyfer cyhoeddi eu cyfrifon archwiliedig.
Dim ond 486 o archwiliadau (66%) oedd wedi eu cwblhau erbyn y terfyn amser statudol ddiwedd mis Medi.
Er i 51 o gynghorau ychwanegol gwblhau’r archwiliadau erbyn diwedd mis Tachwedd, mae 38 o gynghorau’n dal heb gyflwyno eu cyfrifon o gwbl.
38 o gynghorau heb gyflwyno cyfrifon o gwbl
Pan fydd cynghorau’n methu â chydymffurfio â’u cyfrifoldebau statudol, mae archwilwyr yn cyhoeddi barn archwilio amodol.
Er bod nifer yr archwiliadau amodol wedi cwympo o 340 i 218, maen nhw’n parhau i fod “yn rhy uchel o hyd” yn ôl yr adroddiad.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, ei fod yn “siomedig bod rhai cynghorau yn dal i gael barnau amodol,” a hynny am resymau lluosog a gafodd eu crybwyll yn yr argymhellion yn yr adroddiau blaenorol.
“Mae disgwyl i gynghorau lleol fod â rôl fwyfwy pwysig o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.
“Rwy’n argymell bod yr holl gynghorau’n ystyried y materion a godir yn yr adroddiad hwn ac yn ystyried a all unrhyw faterion o’u plith fod yn berthnasol iddynt.”
Archwiliad 2019-20 yw’r archwiliad olaf o dan y trefniadau presennol.