Mae llys wedi cael tri dyn yn euog o lofruddio dyn 18 oed yng Nghaerdydd.

Cafwyd hyd i Fahad Mohamed Nur â 21 o friwiau ar ei gorff ar ôl iddo gael ei drywanu ger gorsaf drenau Cathays fis Mehefin y llynedd.

Roedd Shafique Shaddad, 25 oed o Drebiwt, Mustafa Aldobhani, 22 oed, a’i frawd Abdulgalil Aldobhani, 23 oed, i gyd wedi gwadu ei lofruddio.

Ond cafwyd y tri yn euog ar ôl ystyried yr achos am fwy na diwrnod.

Yr achos

Clywodd Llys y Goron Caerdydd fod y tri wedi cwrso Fahad Mohamed Nur i mewn i lôn ger Prifysgol Caerdydd.

Fe wnaethon nhw ei drywanu droeon, a’i daro yn ei galon ag un ergyd.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle bu farw’n ddiweddarach.

Roedd ganddo fe bron i £1,000 a chyffuriau dosbarth A yn ei feddiant pan gafodd ei ladd, ac roedd e wedi bod mewn ffrae gyda’r tri cyn cael ei drywanu.

Cafwyd hyd i’r gyllell ger y brifysgol bythefnos ar ôl ei farwolaeth.

Mae disgwyl i’r tri gael eu dedfrydu maes o law.