Mae Bethan Sayed yn dweud ei bod hi wedi’i “siomi” yn sgil polisi’r Cynulliad sy’n atal codi cofeb i’r diweddar Carl Sargeant.
Mae Comisiwn y Cynulliad wedi gwrthod cais gan grŵp trawsbleidiol am gofeb yn y Senedd i gyn-Aelod Cynulliad Alun a Glannau Dyfrdwy.
Cafwyd hyd i Carl Sargeant yn farw yn dilyn honiadau ynghylch ei ymddygiad rhywiol yn 2017.
Mae polisi’r Cynulliad a gafodd ei osod ym mis Chwefror 2019 yn dweud bod rhaid disgwyl deng mlynedd cyn ystyried cofeb ar gyfer unrhyw Aelod Cynulliad sydd wedi marw.
Mae Bethan Sayed yn galw am ail-ystyried polisi sydd hefyd yn atal cofeb rhag cael ei chodi i Steffan Lewis, fu farw o ganser ychydig dros flwyddyn yn ôl.
‘Arwydd gref o sut rydym yn eu cofio nhw’
“Dwi’n awyddus i Gomisiwn y Cynulliad ail-feddwl y polisi, ac i edrych am ddatrysiad a fydd yn plesio pawb,” meddai wrth golwg360.
“Dwi’n siomedig bod y penderfyniad yma wedi cael ei wneud.
“Byddai cael cofeb i aelodau cynulliad sydd wedi marw tra yn y swydd fel Carl Sargeant a Steffan Lewis yn arwydd gref o sut rydym yn eu cofio nhw.”