Mae un o ddau o bobol a gafodd eu trywanu yn ystod ymosodiad brawychol yn Llundain ddydd Sul (Chwefror 2) wedi cael ei henwi.

Mae Monika Luftner, sy’n 51 oed, yn athrawes ysgol feithrin yn ardal Lambeth.

Cafodd hi ei thrywanu ar stryd fawr Streatham gan Sudesh Amman, 20, a gafodd ei saethu’n farw gan yr heddlu.

Roedd hi’n athrawes mewn ysgol Gatholig yn Balham ac mae’r ysgol yn dweud ei bod hi’n gwella yn ei chartref.

Maen nhw’n gofyn am breifatrwydd iddi wrth iddi barhau i wella yn dilyn yr ymosodiad.